25 A'r Arglwydd a'm gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef.
26 A'r trugarog y gwnei drugaredd: â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
27 A'r glân y gwnei lendid; ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.
28 Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i'w darostwng.
29 Canys ti yw fy nghannwyll i, O Arglwydd; a'r Arglwydd a lewyrcha fy nhywyllwch.
30 Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur.
31 Duw sydd berffaith ei ffordd; ymadrodd yr Arglwydd sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.