32 Canys pwy sydd Dduw, heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig, eithr ein Duw ni?
33 Duw yw fy nghadernid a'm nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith.
34 Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd.
35 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau.
36 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac â'th fwynder y lluosogaist fi.
37 Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau.
38 Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.