35 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau.
36 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac â'th fwynder y lluosogaist fi.
37 Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau.
38 Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
39 Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i.
40 Canys ti a'm gwregysaist i â nerth i ryfel: y rhai a ymgyfodent i'm herbyn, a ddarostyngaist danaf.
41 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.