40 Canys ti a'm gwregysaist i â nerth i ryfel: y rhai a ymgyfodent i'm herbyn, a ddarostyngaist danaf.
41 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
42 Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr Arglwydd, ond nid atebodd hwynt.
43 Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel tom yr heolydd, a thaenais hwynt.
44 Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.
45 Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwrandawant arnaf fi.
46 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o'u carchardai.