9 Dyrchafodd mwg o'i ffroenau ef, a thân o'i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef.
10 Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
11 Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt.
12 Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o'i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
13 Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd.
14 Yr Arglwydd a daranodd o'r nefoedd, a'r Goruchaf a roddes ei lef.
15 Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a'u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a'u drylliodd hwynt.