12 Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a'i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid. Felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr.
13 A thri o'r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
14 A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa: a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem.
15 A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a'm dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?
16 A'r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cymerasant hefyd, ac a'i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a'i diodoffrymodd ef i'r Arglwydd;
17 Ac a ddywedodd, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny.
18 Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o'r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a'u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri.