11 Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef.
12 Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel.
13 A dywedodd yntau, Da; myfi a wnaf gyfamod â thi: eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddywedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelych i edrych yn fy wyneb.
14 A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro i mi fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid.
15 Ac Isboseth a anfonodd, ac a'i dug hi oddi wrth ei gŵr, sef oddi wrth Phaltiel mab Lais.
16 A'i gŵr a aeth gyda hi, gan fyned ac wylo ar ei hôl hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.
17 Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch.