26 A Joab a aeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a'i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira, heb wybod i Dafydd.
27 A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a'i trodd ef o'r neilltu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn heddwch; ac a'i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.
28 Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a'm brenhiniaeth gerbron yr Arglwydd byth, oddi wrth waed Abner mab Ner:
29 Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dŷ ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl, neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.
30 Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.
31 A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A'r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.
32 A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A'r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a'r holl bobl a wylasant.