15 Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia,
16 Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.
17 Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i'r amddiffynfa.
18 A'r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
19 A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.
20 A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim; a Dafydd a'u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o'm blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal‐perasim.
21 Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a'i wŷr a'u llosgodd hwynt.