20 A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim; a Dafydd a'u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o'm blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal‐perasim.
21 Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a'i wŷr a'u llosgodd hwynt.
22 A'r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
23 A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o'r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â'r morwydd.
24 A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr Arglwydd a â allan o'th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid.
25 A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.