2 A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a'r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.
3 A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd; ac a'i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.
4 A hwy a'i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch.
5 Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.
6 A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.
7 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a'i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.
8 A bu ddrwg gan Dafydd, am i'r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn.