5 Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.
6 A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.
7 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a'i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.
8 A bu ddrwg gan Dafydd, am i'r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn.
9 A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi?
10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a'i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad.
11 Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a'r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom, a'i holl dŷ.