6 A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.
7 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a'i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.
8 A bu ddrwg gan Dafydd, am i'r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn.
9 A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi?
10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a'i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad.
11 Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a'r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom, a'i holl dŷ.
12 A mynegwyd i'r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.