7 Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i'r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?
8 Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Myfi a'th gymerais di o'r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel.
9 A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o'th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear.
10 Gosodaf hefyd i'm pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt;
11 Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A'r Arglwydd sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti.
12 A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda'th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o'th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef.
13 Efe a adeilada dŷ i'm henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth.