9 Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl dŷ ef, a roddais i fab dy feistr di.
10 A thi a erddi y tir iddo ef, ti, a'th feibion, a'th weision, ac a'u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision.
11 Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i'w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin.
12 Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a'i enw oedd Micha. A phawb a'r a oedd yn cyfanheddu tŷ Siba oedd weision i Meffiboseth.
13 A Meffiboseth a drigodd yn Jerwsalem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o'i ddeudroed.