14 Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion:
15 A'r Arglwydd a'm cymerodd oddi ar ôl y praidd; a'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i'm pobl Israel.
16 Yr awr hon gan hynny gwrando air yr Arglwydd; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac.
17 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a'th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a'th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o'i wlad.