11 Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd Dduw, yr anfonaf newyn i'r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr Arglwydd.
12 A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o'r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr Arglwydd, ac nis cânt.
13 Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a'r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched.
14 Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.