4 Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir,
5 Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a'r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll?
6 I brynu y tlawd er arian, a'r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith?
7 Tyngodd yr Arglwydd i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o'u gweithredoedd hwynt.
8 Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft.
9 A'r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw, y gwnaf i'r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau.
10 Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a'ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a mi a'i gwnaf fel galar am unmab, a'i ddiwedd fel dydd chwerw.