Hosea 10 BWM

1 Gwinwydden wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg.

2 Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau.

3 Canys yr awr hon y dywedant, Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr Arglwydd; a pheth a wnâi brenin i ni?

4 Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd.

5 Preswylwyr Samaria a ofnant oherwydd lloeau Beth‐afen; canys ei bobl a alara drosto, a'i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef.

6 Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd ganddo ei gyngor ei hun.

7 Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr.

8 A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau: a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.

9 O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibea: yno y safasant; a'r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt.

10 Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a phobl a gesglir yn eu herbyn, pan ymrwymont yn eu dwy gŵys.

11 Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo.

12 Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr Arglwydd, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch.

13 Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn.

14 Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl, a'th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio Beth‐arbel yn amser rhyfel; lle y drylliwyd y fam ar y plant.

15 Fel hynny y gwna Bethel i chwi, am eich mawrddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14