5 Sef Arglwydd Dduw y lluoedd: yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth.
6 Tro dithau at dy Dduw; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7 Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu.
8 A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.
9 A mi, yr hwn yw yr Arglwydd dy Dduw a'th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl.
10 Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi.
11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd.