13 Gofid un yn esgor a ddaw arno: mab angall yw efe; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant.
14 O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt: byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o'm golwg.
15 Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr Arglwydd o'r anialwch a ddyrchafa, a'i ffynhonnell a sych, a'i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol.
16 Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i'w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a'u gwragedd beichiogion a rwygir.