7 A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a'u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon.
8 Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a'i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal.
9 Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a'm gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin a guddiai ei noethni hi.
10 A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o'm llaw i.
11 Gwnaf hefyd i'w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a'i Sabothau, a'i holl uchel wyliau, beidio.
12 A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a'i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a'u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a'u difa hwynt.
13 A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl‐darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a'i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.