1 At dy safn â'r utgorn. Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr Arglwydd, am iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.
2 Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a'th adwaenom di.
3 Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a'i herlid yntau.
4 Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o'u harian a'u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.
5 Samaria, dy lo a'th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i'w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?
6 Canys o Israel y mae; y saer a'i gwnaeth; am hynny nid yw efe Dduw: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.