3 Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a'i herlid yntau.
4 Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o'u harian a'u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.
5 Samaria, dy lo a'th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i'w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?
6 Canys o Israel y mae; y saer a'i gwnaeth; am hynny nid yw efe Dduw: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.
7 Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a'i llwnc.
8 Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.
9 Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.