14 Eich gwragedd, eich plant, a'ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o'r tu yma i'r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt;
15 Nes rhoddi o'r Arglwydd lonyddwch i'ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o'r tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad yr haul.
16 Hwythau a atebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni.
17 Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithau: yn unig bydded yr Arglwydd dy Dduw gyda thi, megis y bu gyda Moses.
18 Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.