Josua 13 BWM

1 A Phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i'w feddiannu.

2 Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,

3 O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua'r gogledd, yr hwn a gyfrifir i'r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a'r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:

4 O'r deau, holl wlad y Canaaneaid, a'r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid:

5 A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal‐Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.

6 Holl breswylwyr y mynydd‐dir o Libanus hyd Misreffoth‐maim, a'r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti.

7 Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i'r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse.

8 Gyda'r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a'r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt;

9 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:

10 A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;

11 Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;

12 Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a'u trawsai hwynt, ac a'u gyrasai ymaith.

13 Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na'r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a'r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.

14 Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.

15 A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd:

16 A'u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a'r holl wastadedd wrth Medeba;

17 Hesbon a'i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth‐Baalmeon;

18 Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath;

19 Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd‐dir y glyn;

20 Beth‐peor hefyd, ac Asdoth‐Pisga, a Beth‐Jesimoth,

21 A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.

22 Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â'r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt.

23 A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a'i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefi.

24 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;

25 A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba;

26 Ac o Hesbon hyd Ramath‐Mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;

27 Ac yn y dyffryn, Beth‐Aram, a Beth‐Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a'i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du y dwyrain.

28 Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefydd.

29 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:

30 A'u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;

31 A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd.

32 Dyma y gwledydd a roddodd Moses i'w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain.

33 Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24