7 Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.
8 Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
9 Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.
10 Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd,
11 Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i'r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu'r wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i'w meddiannu.
12 Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasse, y llefarodd Josua, gan ddywedyd,
13 Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon.