40 Felly y trawodd Josua yr holl fynydd‐dir, a'r deau, y gwastadedd hefyd, a'r bronnydd, a'u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel.
41 A Josua a'u trawodd hwynt o Cades‐Barnea, hyd Gasa, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.
42 Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a'u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel.
43 Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i'r gwersyll yn Gilgal.