1 A Phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Achsaff,
2 Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd‐dir, ac yn y rhostir tua'r deau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua'r gorllewin;
3 At y Canaaneaid o'r dwyrain a'r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a'r Hethiaid, a'r Pheresiaid, a'r Jebusiaid, yn y mynydd‐dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, yng ngwlad Mispe.
4 A hwy a aethant allan, a'u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.
5 A'r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.