10 A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â'r cleddyf: canys Hasor o'r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.
11 Trawsant hefyd bob enaid a'r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.
12 A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a'u holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a'u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd.
13 Ond ni losgodd Israel yr un o'r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.
14 A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a'r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.
15 Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o'r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses.
16 Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a'r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a'r dyffryn, a'r gwastadedd, a mynydd Israel, a'i ddyffryn;