17 O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a'u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a'u rhoddodd i farwolaeth.
18 Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.
19 Nid oedd dinas a'r a heddychodd â meibion Israel, heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel.
20 Canys o'r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
21 A'r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o'r mynydd‐dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a'u difrododd hwynt a'u dinasoedd.
22 Ni adawyd un o'r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.
23 Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses; a Josua a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A'r wlad a orffwysodd heb ryfel.