4 A hwy a aethant allan, a'u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.
5 A'r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
6 A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a'u cerbydau a losgi di â thân.
7 Felly Josua a ddaeth a'r holl bobl o ryfel gydag ef, yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron; a hwy a ruthrasant arnynt.
8 A'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a'u trawsant hwynt, ac a'u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misreffoth‐maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a'u trawsant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill.
9 A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a'u cerbydau a losgodd â thân.
10 A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â'r cleddyf: canys Hasor o'r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.