1 Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a'r holl wastadedd tua'r dwyrain:
2 Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;
3 Ac o'r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth‐jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth‐Pisga:
4 A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;
5 Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a'r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon.
6 Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a'u trawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.