7 Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o'r tu yma i'r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a'i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;
8 Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a'r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid:
9 Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;
10 Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un;
11 Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un;
12 Brenin Eglon, yn un; brenin Geser, yn un;
13 Brenin Debir, yn un; brenin Geder, yn un;