28 Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefydd.
29 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:
30 A'u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;
31 A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd.
32 Dyma y gwledydd a roddodd Moses i'w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain.
33 Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.