8 Gyda'r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a'r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt;
9 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:
10 A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;
11 Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;
12 Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a'u trawsai hwynt, ac a'u gyrasai ymaith.
13 Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na'r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a'r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.
14 Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.