1 Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau‐cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i'w hetifeddu.
2 Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.
3 Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o'r tu hwnt i'r Iorddonen; ond i'r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;
4 Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i'r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a'u meysydd pentrefol i'w hanifeiliaid, ac i'w golud.