18 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
19 A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a'r ffynhonnau isaf.
20 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.
21 A'r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,
22 Cina hefyd, a Dimona, ac Adada,
23 Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,
24 A Siff, a Thelem, a Bealoth,