3 Ac yr oedd yn myned allan o'r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.
4 Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau.
5 A'r terfyn tua'r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a'r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.
6 A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐Hogla, ac yn myned o'r gogledd hyd Beth‐Araba; a'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben.
7 A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua'r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i'r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes, a'i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel.
8 A'r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua'r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua'r gogledd.
9 A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath‐jearim.