9 A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath‐jearim.
10 A'r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua'r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth‐semes, ac yn myned i Timna.
11 A'r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua'r gogledd: a'r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.
12 A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a'i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.
13 Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer‐Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.
14 A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.
15 Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐Seffer.