1 A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o'r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i'r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel;
2 Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;
3 Ac yn disgyn tua'r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth‐horon isaf, ac hyd Geser: a'i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.
4 Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.