1 A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o'r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i'r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel;
2 Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;
3 Ac yn disgyn tua'r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth‐horon isaf, ac hyd Geser: a'i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.
4 Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.
5 A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth‐adar, hyd Beth‐horon uchaf.
6 A'r terfyn sydd yn myned tua'r môr, i Michmethath o du y gogledd; a'r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath‐Seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha: