11 Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth‐sean a'i threfydd, ac Ibleam a'i threfydd, a thrigolion Dor a'i threfydd, a thrigolion En‐dor a'i threfydd, a phreswylwyr Taanach a'i threfydd, a thrigolion Megido a'i threfydd; tair talaith.
12 Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
13 Eto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr.
14 A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i'r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio?
15 A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fyny i'r coed, a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid, a'r cewri, od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti.
16 A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth‐sean a'i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel.
17 A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseff, wrth Effraim ac wrth Manasse, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig: