15 A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fyny i'r coed, a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid, a'r cewri, od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti.
16 A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth‐sean a'i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel.
17 A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseff, wrth Effraim ac wrth Manasse, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig:
18 Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.