6 Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i'r rhan arall o feibion Manasse.
7 A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a'r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau, hyd breswylwyr Entappua.
8 Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse: ond Tappua, yr hon oedd ar derfyn Manasse, oedd eiddo meibion Effraim.
9 A'r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana, o du deau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Effraim, oedd ymhlith dinasoedd Manasse: a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i'r afon, a'i ddiwedd oedd y môr.
10 Y deau oedd eiddo Effraim, a'r gogledd eiddo Manasse; a'r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o'r gogledd; ac yn Issachar, o'r dwyrain.
11 Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth‐sean a'i threfydd, ac Ibleam a'i threfydd, a thrigolion Dor a'i threfydd, a thrigolion En‐dor a'i threfydd, a phreswylwyr Taanach a'i threfydd, a thrigolion Megido a'i threfydd; tair talaith.
12 Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.