1 A Holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a'r wlad oedd wedi ei darostwng o'u blaen hwynt.
2 A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i'r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto.
3 A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi?
4 Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y delont ataf drachefn.
5 A hwy a'i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du'r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du'r gogledd.
6 A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr Arglwydd ein Duw.
7 Ond ni bydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du'r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt.