16 Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua'r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua'r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.
17 Ac y mae yn tueddu o'r gogledd, ac yn myned i En‐semes, ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben:
18 Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua'r gogledd, ac yn disgyn i Araba.
19 Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua'r gogledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua'r gogledd, hyd gwr yr Iorddonen tua'r deau. Dyma derfyn y deau.
20 Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.
21 A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth‐hogla, a glyn Cesis,
22 A Beth‐araba, a Semaraim, a Bethel,