18 Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua'r gogledd, ac yn disgyn i Araba.
19 Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua'r gogledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua'r gogledd, hyd gwr yr Iorddonen tua'r deau. Dyma derfyn y deau.
20 Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.
21 A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth‐hogla, a glyn Cesis,
22 A Beth‐araba, a Semaraim, a Bethel,
23 Ac Afim, a Phara, ac Offra,
24 A Cheffar‐haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd: