11 A'u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua'r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i'r afon sydd ar gyfer Jocneam;
12 Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth‐Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia;
13 Ac yn myned oddi yno ymlaen tua'r dwyrain, i Gittah‐Heffer, i Ittah‐Casin; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar, i Nea.
14 A'r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a'i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel.
15 Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
16 Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a'u pentrefydd.
17 Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd.