20 A Rabbith, a Cision, ac Abes,
21 A Remeth, ac En‐gannim, ac Enhada, a Beth‐passes.
22 A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth‐semes; a'u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.
23 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a'u pentrefydd.
24 A'r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd.
25 A'u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff,
26 Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua'r gorllewin, ac i Sihor‐Libnath: